P-04-366 Cau Canolfan Ddydd Aberystwyth

 

Geiriad y ddeiseb:

Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried a yw’r cynlluniau i symud y gwasanaeth gofal dydd ar gyfer pobl hŷn syn agored i niwed or Ganolfan Ddydd, sef adeilad 30 mlwydd oed a adeiladwyd i bwrpas, i lawr isaf hen adeilad a oedd yn arfer cael ei ddefnyddio fel Neuadd y Dref yn Aberystwyth yn cydymffurfio â gofynion statudol a chanllawiau perthnasol. Mae’r Cyngor Sir yn bwriadu dymchwel y Ganolfan fel rhan o ddatblygiadau i adeiladu maes parcio, archfarchnad a siopau.


Prif ddeisebydd: Pamela Ellis

Ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: 28 Chwefror 2012

Nifer y deisebwyr: 10 (Casglwyd deiseb gysylltiedig tua 6,000 o lofnodion)

 

Gwybodaeth ategol:Mae’r Ganolfan Ddydd bresennol yn gyfleuster tua 30 mlwydd oed a gafodd ei adeiladu i bwrpas. Mae wedi’i lleoli mewn safle cyfleus yng nghanol y dref, ac mae mynediad rhwydd iddi. Mae digon o le yno i ollwng pobl ac mae ger croesfan ddiogel.  Mae’n adeilad braf a golau gyda digon o le i 90 cleient ag anghenion amrywiol. Mae nifer o ystafelloedd digon o faint yn yr adeilad. Mae’r ganolfan arfaethedig yn llai na hanner y maint ac ond yn addas ar gyfer 32 cleient mewn un ystafell fawr. Ar hyn o bryd, mae’r ganolfan yn galluogi i ofalwyr cleientiaid anabl neu bobl sydd wedi cael strôc gael gofal seibiant dau neu dri diwrnod yr wythnos. Teimlwn y bydd symud y Ganolfan yn gwahaniaethu yn erbyn y grŵp gan fod y Gwasanaethau Cymdeithasol eisoes yn asesu a chyfeirio llai o bobl ar gyfer gofal seibiant. Mae’r Cyngor wedi cyfaddef y bydd toriadau.

Oherwydd anawsterau o ran cael mynediad at y llawr isaf, mae ramp serth wedi’i adeiladu tu allan, sy’n troi ar ongl o 180 hanner ffordd i lawr. Teimlwn yn gryf y bydd y ramp yn achosi problemau anferth i ofalwyr a phobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn pan fydd tywydd stormus neu pan fydd hi wedi rhewi. Mae nenfwd y llawr isaf yn isel ac mae colofn fawr ynghanol yr ystafell sy’n ei gwneud hi’n anodd symud cadeiriau olwyn a throliau. Nid oes llawer o olau naturiol am fod yr ystafell yn rhannol o dan ddaear ac mae’n rhaid mynd trwy lawer o ddrysau er mwyn cyrraedd y toiledau.

Mae cegin newydd ardderchog yn yr hen ganolfan sy’n darparu prydau da. Mae’r clwb cinio wythnosol, a oedd yn gynllun cynhwysiant cymdeithasol gwerthfawr, eisoes wedi dod i ben. Yn y dyfodol, bydd prydau’n cael eu paratoi oddi ar y safle ac yna eu cludo i’r ganolfan.  Dim ond un ystafell fydd ar gael ar gyfer bwyta a’r holl weithgareddau eraill, felly bydd lle yn gyfyng iawn. Mae Gwasanaeth Gwirfoddol y Merched yn lleol yn darparu diodydd a byrbrydau ar hyn o bryd, ond bydd hynny’n dod i ben.

Mae gan y ganolfan bresennol ystafell ymolchi fawr gyda theclyn codi a chyfleusterau golchi dillad, sydd yn gyfleusterau gwerthfawr.  Bydd gan y ganolfan newydd gawod wedi’i gosod mewn tŷbach, er mwyn gallu rhoi cymorth wrth ymolchi, gydar drws yn agor i ardal gyffredin.  Hwnnw fydd yr unig dŷbach syn addas ar gyfer pobl anabl, felly bydd yn anodd i gleient anabl ddefnyddior tŷbach pan fydd cleient arall yn cael cawod. Os bydd y cyfleuster newydd ddim ond yn gallu gwasanaethu 32 cleient bydd y bobl sydd angen gofal seibiant yn cael blaenoriaeth dros y bobl hŷn syn gwerthfawrogir cyfle i ddod ir ganolfan i fwynhau cymdeithasu, cymryd rhan mewn gweithgareddau, cael bath a phryd da o fwyd. Mae gan y ganolfan bresennol ardd braf gyda seddi, digon o lefydd parcio, man i ollwng pobl ac mae mynediad i’r adeilad yn rhwydd i bawb.

Mae’r ganolfan bresennol ar gael gyda’r hwyr ar gyfer grwpiau pobl hŷn. Maer grŵp gofal arthritis yn pryderu na fyddant yn gallu ymdopi gyda defnyddior ramp yn y tywyllwch ar gyfer eu cyfarfodydd gydar hwyr. Maer ganolfan newydd ger troad peryglus ar brif ffordd brysur. Roedd y bobl oedd yn defnyddior llawr isaf pan oedd yr adeilad yn Neuadd y Dref yn cwyno ei fod yn rhy boeth yn yr haf ac yn oer a llaith yn y gaeaf. Mae’r system wresogi wedi’i gwella, ond ni fydd y ffenestri codi yn cael eu newid ac ni fydd aerdymheru yn cael ei osod. Er bod y Cyngor Sir wedi gwneud ymdrech i ymateb i’n pryderon, credwn yn gryf bod y ganolfan newydd arfaethedig yn hollol anaddas ac yn llawer israddol na’r ganolfan bresennol. Hoffwn ychwanegu bod y Cyngor yn cyfaddef na chynhaliwyd ymgynghoriad priodol. Dyna’r rheswm y cafodd y garfan bwyso hon ei chreu.